Vocab 2.0
Mae Vocab 2.0 yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgair a’r Termiadur Addysg yn nhestun gwefan, ac yn eu tanlinellu.
Pan fo ategyn Vocab 2.0 wedi ei osod ar wefan, bydd modd i ddefnyddwyr y wefan honno weld cofnodion geiriadurol llawn drwy symud y llygoden dros eiriau sydd wedi’u tanlinellu.

Sut mae defnyddio Vocab 2.0?
Os ydych chi wedi darganfod Vocab 2.0 wedi ei osod ar un o’ch hoff wefannau ac eisiau dysgu sut i’w ddefnyddio, yna cliciwch isod am gyfarwyddiadau llawn.
Adnoddau cod agored i ddatblygwyr
Mae Vocab 2.0 yn ddiwygiad o’r cod a’r technolegau a defnyddir ar gyfer y Vocab gwreiddiol, sydd wedi bod ar gael am ddim ers 2015. Os ydych chi’n ddatblygwr gwefannau ac eisiau gosod Vocab 2.0 ar eich gwefan yna cysylltwch trwy ebostio techiaith@bangor.ac.uk.