Adnoddau i ddatblygwyr
Mae’r Porth Technolegau yn gasgliad o adnoddau technolegol Cymraeg a ddatblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith.
Mae’r adnoddau wedi’u darparu fel ‘blociau adeiladu’, agored ac am ddim, er mwyn galluogi cymorth uwch a llawn o’r Gymraeg o fewn unrhyw gynnyrch gorffenedig digidol. Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at gwmnïau meddalwedd (lleol a rhyngwladol), ymchwilwyr, hacwyr, gwirfoddolwyr brwdfrydig yn ogystal â chlybiau codio Cymraeg. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion a dolenni perthnasol yn yr adrannau isod.
European Language Grid (ELG)
Y brif lwyfan i restru a chynnwys holl adnoddau, offer, gwasanaethau a chynnyrch techolegau iaith Ewrop.
Docker
Technoleg pecynnu a hwyluso gosod meddalwedd ar gyfer Linux, Mac OS X a Windows.
GitHub
Gwefan sy’n hwyluso casglu adnoddau projectau cyfrifiadurol ynghyd. Yma, gallwch ganfod ffeiliau a dogfennaeth ein cynnyrch.
Hugging Face
Llwyfan sy’n caniatáu i ddatblygwyr rannu adnoddau dysgu peirianyddol. Gallwch bori ein hadnoddau diweddaraf yma.