Gorfodwr alinio

Mae gorfodwr alinio yn defnyddio meddalwedd adnabod lleferydd, trawsgrifiadau a geiriaduron ynganu ar gyfer alinio a nodi lleoliad pob gair a ffonem o fewn ffeil sain.
O gyflawni camau i orfodi alinio testun gyda sain corpws lleferydd cyfan, mae modd cael gwell dealltwriaeth o’i ansawdd yn ogystal â chynnig cyfleoedd i wella’r elfennau hyfforddi modelau acwstig.

Cefndir y gwaith
Mae technolegau lleferydd ar gyfer iaith benodol, megis adnabod lleferydd a testun-i-leferydd, yn ddibynnol ar gorpora lleferydd sy’n llawn enghreifftiau sain siaradwyr wedi’u trawsgrifio a’u hanodi gyda gwybodaeth ffoneteg a phwyslais geiriau.
Mae modd gwneud y gwaith anodi drwy alinio’n fanwl gywir y testun gyda’r sain. Ond gan fod maint rhai corpora lleferydd yn enfawr mae angen dulliau awtomatig i greu corpws o’r fath wedi’i alinio.
Gwybodaeth i ddatblygwyr
Dyma orfodwr alinio ar gyfer hwyluso creu corpora lleferydd Cymraeg:
techiaith/Prosodylab-Aligner
Os hoffech chi gael ffordd hwylus o ddefnyddio’r gorfodwr alinio o fewn amgylchedd Docker, yna mae’r adnodd canlynol ar gael hefyd:
techiaith/docker-ProsodylabAligner-cy