Gwasanaethau API
Mae gan y Porth Technolegau Iaith ganolfan gwasanaethau APIs sydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau technoleg iaith ar-lein.
Darparir y gwasanaethau fel rhyngwyneb rhaglennu (neu ‘API’) sy’n hawdd i’w ddefnyddio o fewn eich meddalwedd a phrojectau Cymraeg a dwyieithog. Mae API yn rhyngwyneb hwylus sy’n rhoi mynediad at gydran meddalwedd sydd yn darparu swyddogaethau penodol. Gellir defnyddio un neu gyfres o APIs i adeiladu system meddalwedd mwy cymhleth.
Beth sydd ar gael?
Mae darpariaeth API y Porth Technolegau Iaith yn gweithio ar-lein ac yn eich cysylltu chi fel defnyddiwr gyda’n gweinyddion ni yma yn yr Uned Technolegau Iaith.
Yn y modd yma, gallwch ddefnyddio gwasanaethau fyddai fel arfer yn gofyn am lawer iawn o bŵer cyfrifiadurol, neu a fyddai yn anodd eu gosod a’u ffurfweddu at anghenion gwahanol systemau a dyfeisiau. Oherwydd hyn, mae modd i chi ddefnyddio amrywiaeth eang o galedwedd i gael mynediad at ein gwasanaethau, boed yn dabledi, ffonau symudol, gliniaduron a chyfrifiaduron bwrdd gwaith.
Sut i gofrestru
Tagiwr rhan ymadrodd
Caniatáu i fewnbynnu unrhyw ddarn o destun Cymraeg a derbyn dadansoddiad manwl o bob rhan ymadrodd.
API testun-i-leferydd
Caniatáu i chi ddefnyddio llais synthetig Cymraeg o fewn eich meddalwedd, apiau a gwefannau.
Cysill Ar-lein
Caniatáu i ddatblygwyr ymgorffori nodweddion gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg Cysill o fewn eu meddalwedd.
API lemateiddiwr
Caniatáu i ddefnyddwyr dderbyn lema unrhyw air sydd wedi’i dreiglo, rhedeg neu’i ffurfdroi.
API adnabod iaith
Caniatáu i chi adnabod iaith testun allan o restr o 48 iaith (sy’n cynnwys Cymraeg a Saesneg).
Sut i gofrestru ar gyfer allwedd API
- Yn gyntaf mae’n rhaid mynd at dudalen gartref y Ganolfan APIs. Ar ôl cyrraedd y dudalen hon, cliciwch ar y botwm sy’n dweud “Cofrestru”.
- Ar y sgrîn gofrestru, byddwch yn gweld cyfarwyddiadau i’ch helpu yn y broses o gofrestru. Bydd arnoch angen enw defnyddiwr (h.y. yr enw yr hoffech ei ddefnyddio ar ein systemau), cyfrinair a chyfrif e-bost gweithredol.
- Ar ôl llenwi’r blychau a gwasgu’r botwm Cofrestru ar waelod y sgrîn, byddwch yn derbyn e-bost yn awtomatig yn gofyn i chi ddilysu eich cyfrif. Cliciwch ar y ddolen sydd yn yr e-bost, ac yna defnyddiwch eich manylion cyfrif newydd (enw defnyddiwr a chyfrinair) i fewngofnodi.
- Dylech yn awr weld sgrîn gartref eich cyfrif, gyda neges fawr yn eich croesawu. Dylai fod botwm bach gyda eich enw defnyddiwr arno yng nghornel uchaf ochr dde y sgrîn. Cliciwch ar hwn, ac yna’r botwm Gosodiadau i fynd at eich gosodiadau personol.
- Nawr byddwch yn gallu dewis o blith sawl un o’n gwasanaethau sy’n defnyddio y system APIs. Dewiswch y rhaglen yr hoffech chi ei defnyddio, ac yna mewnbynnwch y wybodaeth angenrheidiol i’r meysydd ar y dudalen.
- Bydd angen mewnbynnu URL eich gwefan, disgrifiad byr o’ch bwriad, ac yna ticio i gytuno gyda’r amodau a thelerau. Cofiwch dicio’r blwch sy’n dweud “bydd yr allwedd API yn cael ei defnyddio ar wefan” os hoffech gysylltu a diogelu eich allwedd API gyda gwefan benodol. Cliciwch ar y botwm cadw ar waelod y sgrîn, a bydd eich cod API newydd yn ymddangos yn y blwch priodol. Llongyfarchiadau!

