Gwasanaethau API

cwmwl a'r testun API tech iaith

Mae gan y Porth Technolegau Iaith ganolfan gwasanaethau APIs sydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau technoleg iaith ar-lein.

Darparir y gwasanaethau fel rhyngwyneb rhaglennu (neu ‘API’) sy’n hawdd i’w ddefnyddio o fewn eich meddalwedd a phrojectau Cymraeg a dwyieithog. Mae API yn rhyngwyneb hwylus sy’n rhoi mynediad at gydran meddalwedd sydd yn darparu swyddogaethau penodol. Gellir defnyddio un neu gyfres o APIs i adeiliadu system meddalwedd mwy cymhleth.

cwmwl a'r testun API tech iaith

Beth sydd ar gael?

Mae darpariaeth API y Porth Technolegau Iaith yn gweithio ar-lein ac yn eich cysylltu chi fel defnyddiwr gyda’n gweinyddion ni yma yn yr Uned Technolegau Iaith.

Yn y modd yma, gallwch ddefnyddio gwasanaethau fyddai fel arfer yn gofyn am lawer iawn o bŵer cyfrifiadurol, neu a fyddai yn anodd eu gosod a’u ffurfweddu at anghenion gwahanol systemau a dyfeisiau. Oherwydd hyn, mae modd i chi ddefnyddio amrywiaeth eang o galedwedd i gael mynediad at ein gwasanaethau, boed yn dabledi, ffonau symudol, gliniaduron a chyfrifiaduron bwrdd gwaith.

Sut i gofrestru

Sut i ddechrau defnyddio ein APIs gan gofrestru ar ein gwefan ar gyfer ein APIs.

Tagiwr rhan ymadrodd

Caniatáu i fewnbynnu unrhyw ddarn o destun Cymraeg a derbyn dadansoddiad manwl o bob rhan ymadrodd.

API testun-i-leferydd

Caniatáu i chi ddefnyddio llais synthetig Cymraeg o fewn eich meddalwedd, apiau a gwefannau.

logo cysill ar lein

Cysill Ar-lein

Caniatáu i ddatblygwyr ymgorffori nodweddion gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg Cysill o fewn eu meddalwedd.

API lemateiddiwr

Caniatáu i ddefnyddwyr dderbyn lema unrhyw air sydd wedi’i dreiglo, rhedeg neu’i ffurfdroi.

API adnabod iaith

Caniatáu i chi adnabod iaith testun allan o restr o 48 iaith (sy’n cynnwys Cymraeg a Saesneg).

Sut i gofrestru ar gyfer allwedd API

logo gwyrdd
  1. Yn gyntaf mae’n rhaid mynd at dudalen gartref y Ganolfan APIs. Ar ôl cyrraedd y dudalen hon, cliciwch ar y botwm sy’n dweud Cofrestru ar frig y sgrîn ar yr ochr dde.
  2. Ar y sgrîn gofrestru, byddwch yn gweld cyfarwyddiadau i’ch helpu yn y broses o gofrestru. Bydd arnoch angen enw defnyddiwr (h.y. yr enw yr hoffech ei ddefnyddio ar ein systemau), cyfrinair a chyfrif e-bost gweithredol.
  3. Ar ôl llenwi’r blychau a gwasgu’r botwm Cofrestru ar waelod y sgrîn, byddwch yn derbyn e-bost yn awtomatig yn gofyn i chi ddilysu eich cyfrif. Cliciwch ar y ddolen sydd yn yr e-bost, ac yna defnyddiwch eich manylion cyfrif newydd (enw defnyddiwr a chyfrinair) i fewngofnodi.
  4. Dylech yn awr weld sgrîn gartref eich cyfrif, gyda neges fawr yn eich croesawu. Dylai fod botwm bach gyda eich enw defnyddiwr arno yng nghornel uchaf ochr dde y sgrîn. Cliciwch ar hwn, ac yna’r botwm Gosodiadau i fynd at eich gosodiadau personol.
  5. Nawr byddwch yn gallu dewis o blith sawl un o’n gwasanaethau sy’n defnyddio y system APIs. Dewiswch y rhaglen yr hoffech chi ei defnyddio, ac yna mewnbynnwch y wybodaeth angenrheidiol i’r meysydd ar y dudalen.
  6. Bydd angen mewnbynnu URL eich gwefan, disgrifiad byr o’ch bwriad, ac yna ticio i gytuno gyda’r amodau a thelerau. Cofiwch dicio’r blwch sy’n dweud “bydd yr allwedd API yn cael ei defnyddio ar wefan” os hoffech gysylltu a diogelu eich allwedd API gyda gwefan benodol. Cliciwch ar y botwm cadw ar waelod y sgrîn, a bydd eich cod API newydd yn ymddangos yn y blwch priodol. Llongyfarchiadau!

API Cysill Ar-lein

logo gwyrdd

Mae’r gwasanaeth API Cysill Ar-lein yn caniatáu i ddatblygwyr ymgorffori nodweddion gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg Cysill o fewn eu meddalwedd. Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.

Ewch at ein canolfan gwasanaethau APIs er mwyn cofrestru a derbyn allwedd API er mwyn gallu defnyddio’r gwasanaeth.

Rydym wedi darparu enghreifftiau ar GitHub o sut ellir defnyddio’r API gyda ieitheodd rhaglennu fel Python

Mae enghreifftiau yn cynnwys cod sy’n darparu gwirydd syml linellau gorchymyn a defnyddio API Cysill Ar-lein i wirio testunau Wicipedia Cymraeg.

API tagiwr rhannau ymadrodd

logo gwyrdd

Mae’r gwasanaeth API ar-lein yn caniatáu i fewnbynnu unrhyw air, brawddeg neu ddarn o destun Cymraeg a derbyn dadansoddiad manwl o bob rhan ymadrodd heb angen gosod meddalwedd arbennig. Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.

Er enghraifft, os mewnbynnwch “mae hen wlad fy nhadau“: i mewn i’r API, bydd y dadansoddiad canlynol yn cael ei ddychwelyd:

mae/VBF/- hen/ADJP/- wlad/NF/TM fy/PRONOUN/- nhadau/NPL/TT

Hynny yw:

mae (ffurf ferfol) hen (ansoddair rhagddodol) wlad (enw benywaidd/treiglad meddal) fy (rhagenw) nhadau (enw lluosog/treiglad trwynol)

Dyma’r unig wasanaeth o’r fath sy’n bodoli drwy gyfrwng y Gymraeg ar y we, ac sy’n tagio nodweddion penodol Cymraeg, megis treigliadau.

Gallai’r gwasanaeth fod yn ddefnyddiol mewn sawl cyd-destun:

  • Masnach: adnabod enwau personol ac/neu enwau lleoedd a darparu data marchnata gwerthfawr pellach i fusnesau sydd yn ymchwilio i agweddau cwsmeriaid ar Twitter
  • Addysg: cymhwysiad addysgiadol mewn ysgolion a chlybiau codio
  • Ymchwil: defnydd mewn projectau academaidd wrth ddadansoddi corpora mawr
  • Datblygu: adnodd ar gyfer datblygwyr meddalwedd cyfrwng Cymraeg, yn cynnwys gemau ac apiau

Cydnabyddiaeth

Dylai unrhyw erthyglau neu feddalwedd a seiliwyd ar ddefnydd yr API hwn ddyfynnu:

Jones, D. B., Robertson, P., Prys, G. (2015) Gwasanaeth API Tagiwr Rhannau Ymadrodd Cymraeg [https://techiaith.cymru/gwasanaethau-api/#tagiwr]

API lemateiddiwr

logo gwyrdd

Mae’r gwasanaeth API lemateiddiwr yn caniatáu i ddefnyddwyr dderbyn lema unrhyw air sydd wedi’i dreiglo, rhedeg neu’i ffurfdroi, heb angen gosod meddalwedd arbennig ar eu cyfrifiaduron. Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.

Ewch at ein canolfan gwasanaethau APIs er mwyn cofrestru a derbyn allwedd API er mwyn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Dyma gyfarwyddiadau ar sut mae derbyn allwedd API.

Mae modd i chi fewnbynnu unrhyw air i mewn i’r API a derbyn y lema. Er enghraifft, os mewnbynnwch “rhedais” i mewn i’r API, bydd y lema “rhedeg” yn cael ei ddychwelyd.

Dyma’r unig wasanaeth o’r fath sy’n bodoli drwy gyfrwng y Gymraeg ar y we. Gallai’r gwasanaeth fod yn ddefnyddiol mewn sawl cyd-destun gan gynnwys gwefannau geiriaduron ar-lein.

Cydnabyddiaeth

Dylai unrhyw erthyglau neu feddalwedd a seiliwyd ar ddefnydd yr API hwn ddyfynnu:

Jones, D. B., Robertson, P., Prys, G. (2015) Gwasanaeth API Lemateiddiwr Cymraeg [https://techiaith.cymru/gwasanaethu-api/#lemateiddiwr]

API testun-i-leferydd

logo gwyrdd

Mae gwasanaeth API ar-lein testun-i-leferydd yn caniatáu i chi ddefnyddio llais synthetig Cymraeg o fewn eich meddalwedd, apiau a gwefannau! Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.

Dyma, er enghraifft, sut mae defnyddio’r API o fewn dudalen we HTML:


<script type="text/javascript">
function llefaru() {
    var testun = document.getElementById('llais').value.trim();
    var audioElement = document.createElement('audio');
    var url = "https://api.techiaith.org/festival/v1?api_key=7e1136b1-c33b-4e84-a87e-0a0a4ee08cd3&text=" + encodeURI(testun);
    audioElement.setAttribute('src', url);
    audioElement.play();
}
</script>
<button>Chwarae / Play</button>

Ewch at ein canolfan gwasanaethau APIs er mwyn cofrestru a derbyn allwedd API er mwyn gallu defnyddio’r gwasanaeth.

Rydym wedi darparu enghreifftiau ar GitHub o sut ellir defnyddio’r API gyda ieitheodd rhaglennu fel Python a Javascript.

API adnabod iaith

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.