Trawsgrifiwr

Sgrin-lun o wefan Trawsgrifiwr
Mae’r Trawsgrifiwr yn rhaglen feddalwedd sydd yn trawsgrifio lleferydd Cymraeg yn destun.

Gallwch naill ai gysylltu gyda gwasanaeth allanol fel YouTube i isdeitlo fideos, clicio neu ollwng i mewn i ffeiliau gan ddefnyddio’r rhyngwyneb ar-lein, neu recordio llais yn uniongyrchol o’r microffon.

Mae’r Trawsgrifiwr yn cael ei adolygu a’i diweddaru yn barhaus, ac mae bellach ar gael ar dri llwyfan; ar-lein, Trawsgrifiwr Byw, y fersiwn bwrdd gwaith trawsplatfform (Windows, Mac a Linux) ac fel sgil ym Macsen.

Sgrin-lun o wefan Trawsgrifiwr

Un trawsgrifiad, tair stiwdio

Mae’r Trawsgrifiwr Ar-lein yn rhad ac am ddim. Llwythwch ffeil sain neu fideo i fyny (hyd at 2000MB, y rhan fwyaf o fformatau cyffredin fel MP3, WAV, M4A, MP4 a MOV) neu recordiwch yn syth yn y porwr (hyd at tua 15 munud), yn Gymraeg neu’n Saesneg. Yna golygwch ac allforiwch y canlyniad mewn stiwdio sy’n addas i’r gwaith:

Stiwdio Isdeitlau

Capsiynu fideo gydag isdeitlau manwl y gellir eu steilio — eu serio i’r fideo neu allforio SRT.

Stiwdio Cofnodion

Cofnodion cyfarfod gyda labeli siaradwyr, yn hawdd eu golygu ac yn barod i’w rhannu.

Stiwdio Gyfieithu

Cymraeg ⇆ Saesneg: cofnodion dwyieithog neu gyfieithiadau o isdeitlau.

Sgrin-lun o Stiwdio Isdeitlau'r Trawsgrifiwr ar waith

Nid oes angen cyfrif i ddechrau arni. Mae cyfrif am ddim yn cadw eich gwaith mewn llyfrgell bersonol: preifat yn ddiofyn, chi’n unig sy’n gweld eich recordiadau, a gallwch rannu dolen darllen-yn-unig a’i dirymu unrhyw bryd.

Eicon Trawsgrifiwr Byw

Trawsgrifiwr Byw

Trawsgrifio byw, wrth i chi siarad — rhaglen bwrdd gwaith am ddim ar gyfer Windows, Mac (Apple Silicon) a Linux. Mae’r adnabod lleferydd a’r cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn digwydd ar eich dyfais eich hun: mae’n gweithio all-lein ac nid yw’r sain byth yn gadael eich cyfrifiadur.
Trawsgrifiwr Byw yn trawsgrifio Cymraeg gyda chyfieithiad Saesneg, thema golau
  • Trawsgrifio amser real — gweld y testun wrth i chi siarad, gyda chyfieithiad Saesneg dan bob brawddeg (gellir ei ddiffodd).
  • Meicroffon neu sain y system — trawsgrifio fideo, galwad neu gyfarfod ar-lein sy’n chwarae ar y cyfrifiadur (ar y sgrin yn unig, am resymau hawlfraint).
  • Cadw’r sesiwn — un clic yn cadw’r sain (WAV) a’r trawsgrifiad fel capsiynau amseredig (SRT) a thestun plaen (TXT).
  • Anfon i’r Trawsgrifiwr Ar-lein — am drawsgrifiad a chyfieithiad llawnach ar ôl stopio.

Eich iaith, eich thema

Dewiswch ryngwyneb Cymraeg neu Saesneg a thema golau neu dywyll, neu gadewch iddi ddilyn eich system. Ac mae’r ap wedi’i adeiladu i fod yn hygyrch: bysellau brys (F5–F10 i ddechrau, stopio, clirio, copïo a chadw), labeli a rhanbarthau byw ar gyfer darllenwyr sgrin.

Trawsgrifiwr Byw yn y thema dywyll

Windows

  1. Lawrlwythwch a rhedwch y gosodwr .msi diweddaraf o GitHub Releases (neu lawrlwythwch a datgywasgwch y .zip).

macOS (Apple Silicon)

  1. Lawrlwythwch y pecyn .pkg diweddaraf o GitHub Releases.
  2. Nid yw’r ap wedi’i lofnodi gan Apple: ar macOS 15 a diweddarach, cliciwch Done, yna System Settings → Privacy & Security → Open Anyway.
  3. Angen Mac Apple Silicon (M1 neu ddiweddarach). Mae’r cyfieithu Cymraeg i Saesneg angen macOS 26 (Tahoe) neu ddiweddarach; ar fersiynau hŷn mae’r ap yn gweithio, ond heb gyfieithu.

Linux

  1. Lawrlwythwch a datgywasgwch y .tar.gz o GitHub Releases.
  2. chmod +x Trawsgrifiwr-Byw yna ./Trawsgrifiwr-Byw.
  3. Os oes angen y llyfrgell sain: sudo apt install libopenal1 (Debian/Ubuntu) neu sudo dnf install openal-soft (Fedora).

Cywirdeb a defnydd priodol: cynorthwyydd yw’r ap, nid trawsgrifiwr terfynol — mae angen darllen a chywiro popeth y mae’n ei gynhyrchu. Testun plaen heb atalnodi a gewch, o eirfa sefydlog o 62,392 o eiriau, ar gyfer sain Gymraeg yn unig; mae’r cywirdeb yn amrywio’n fawr yn ôl ansawdd y sain. Mae’n addas ar gyfer nodiadau personol, drafftiau a man cychwyn i drawsgrifiwr dynol — nid ar gyfer cynnwys cyhoeddedig, isdeitlau na chofnodion swyddogol heb olygu dynol. Mae’r model lleferydd (techiaith/kaldi-cy) dan drwydded CC BY-NC 3.0 — defnydd anfasnachol yn unig.

Rhowch gynnig arni!

Dilynwch y ddolen isod er mwyn defnyddio’r Trawsgrifiwr ar-lein neu i lawrlwytho fersiwn bwrdd gwaith. Gallwch ddod o hyd i’r cod ffynhonnell ar gyfer y fersiwn bwrdd gwaith a’r Trawsgrifiwr ar-lein yn yr adran isod.

Adnoddau cod agored i ddatblygwyr

Prif sail y Trawsgrifiwr Ar-lein yw Whisper gan OpenAI, peiriant adnabod lleferydd y gellir ei hyfforddi a’i gynnwys yn hwylus o fewn unrhyw becyn meddalwedd. Mae Trawsgrifiwr Byw yn defnyddio model Kaldi Cymraeg Prifysgol Bangor (techiaith/kaldi-cy) drwy Vosk. Mae modd dysgu mwy am ein gwaith adnabod lleferydd yma.