Ategion

Mae rhai adnoddau o’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru ar gael ar ffurf ategion, i’w gosod o fewn eich gwefan.

Nôd yr ategion hyn, yw hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar wefannau a chefnogi siaradwyr Cymraeg rhugl a newydd i ddefnyddio’r iaith  o ddydd-i-ddydd. Mae’r Porth Technolegau Iaith hefyd yn darparu canllawiau clir ar sut i’w gosod.

logo vocab

Vocab

Mae’r ategyn Vocab yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgair a’r Termiadur Addysg yn nhestun eich gwefan, ac yn eu tanlinellu.

Ategyn Geiriaduron Termau

Mae’r ategyn hwn yn eich galluogi chi i osod unrhyw gyfuniad o eiriaduron termau’r Porth Termau o fewn eich gwefannau.

NVDA

Llais synthetig ar gyfer meddalwedd darllenwr sgrîn.
logo cysill ar lein

Ategyn Cysill Ar-lein

Mae’r ategyn Cysill Ar-lein yn ychwanegu y gwirydd sillafu a gramadeg Cysill at rhyngwyneb eich gwefan.

Ategyn Cymreigio eich porwr

Ategyn sy’n tynnu sylw ymwelwyr wefannau at y ffaith mai Saesneg yw dewis iaith ddiofyn eu porwyr ac yn eu helpu i’w newid i’r Gymraeg.

logo vocab

Vocab 2.0

Ategyn sy’n adnabod geiriau o eiriaduron yn nhestun eich gwefan, ac yn eu tanlinellu.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.