Ap Geiriaduron

Mae’r Ap Geiriaduron yn eiriadur Cymraeg-Saesneg, Saesneg-Cymraeg sy’n darparu mynediad at filoedd o eiriau a thermau ar flaenau eich bysedd!
Gallwch chwilio all-lein am eiriau cyffredinol Cysgair, yn ogystal â nifer o eiriaduron terminoleg safonol. Mae’r rhain yn cynnwys Y Termiadur Addysg, sy’n cynnwys terminoleg safonol ar gyfer addysg oed ysgol, yn ogystal â Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg, sy’n canolbwyntio ar derminoleg ar gyfer pynciau Addysg Uwch. Gellir hefyd chwilio geiriaduron ychwanegol o borth terminoleg y Porth Termau o’r tu mewn i’r ap pan fyddwch ar-lein.

ces eiriadur swmpus,
a gwn y bydd ei gynnwys
yma o hyd ar flaen fy mys.
Lawrlwythwch Ap Geiriaduron
Mae’r ap bellach wedi’i lwytho dros 300,000 o weithiau ac ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau iOS neu Android!
Manylion pellach
Datblygwyd yr Ap Geiriaduron gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor. Ariennir datblygiad Y Termiadur Addysg gan Lywodraeth Cymru. Caiff Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.