Rhannu cofion

Mae gwefan rhannu cofion yn gyfle i sefydliadau ac asiantaethau cyhoeddus sy’n cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg rannu eu cofion cyfieithu gyda’i gilydd.
Mae’n ffordd hwylus i lwytho cofion i fyny, a thynnu cofion cyfieithu sefydliadau eraill i lawr o’r wefan, fel bod modd eu rhannu’n agored.

Rhannu data at ddibenion hyfforddi
Os nad ydych chi’n medru rhannu eich cofion yn agored (e.e. am resymau hawlfraint neu gyfrinachedd), mae dal modd i chi rannu eich cofion gyda ni er mwyn datblygu modelau i wella cyfieithu peirianyddol Cymraeg.
Os hoffech chi gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni: techiaith@bangor.ac.uk