Aliniwr

Rhaglen sy’n caniatáu alinio rhwng testunau Cymraeg a Saesneg yw aliniwr.
Mae’n alinio testunau ar lefel y frawddeg, ac yn gallu troi dau destun o ddwy iaith wahanol yn allbwn o barau o frawddegau.
Gall aliniwr fod o fudd i ddatblygwyr sydd am greu testunau cyfochrog ar gyfer hyfforddi peiriannau cyfieithu ond yn arbennig i gyfieithwyr sydd eisiau creu cofion cyfieithu o gyfieithiadau a grëwyd heb arf CAT neu o unrhyw destun arall sydd ar gael mewn dwy neu fwy iaith.

Defnyddio’r aliniwr
Sail yr Aliniwr Cymraeg-Saesneg yw’r rhaglen cod-agored Hunalign a geiriadur o eiriau, termau ac ymadroddion cyfatebol Cymraeg-Saesneg i helpu’r rhaglen alinio’n effeithiol rhwng y ddwy iaith.
Mae ein hadnoddau ar GitHub yn cynnwys cod enghreifftiol ar ddefnyddio Hunalign gyda Python i alinio casgliadau mawr yn awtomatig, yn ogystal â tiwtorial ar y pecyn LFAligner.
I weld y cod, ewch i: