Lleferydd

Mae gan dechnolegau iaith a lleferydd y gallu i gynhyrchu ac ymateb i leferydd dynol. Yn wreiddiol, datblygwyd y technolegau hyn er mwyn cynorthwyo defnyddwyr gyda nam ar eu golwg ac anableddau eraill.  Bellach mae technolegau iaith lleferydd wedi’u plethu i fywydau pawb, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gyfathrebu gyda ffonau symudol, setiau teledu a gwasanaethau canolfannau galw.

Mae’r Porth Technolegau Iaith yn cynnwys adnoddau rhydd ac agored sy’n cynnig rhai o ddatblygiadau mwyaf arloesol diweddar y maes drwy gyfrwng y Gymraeg.