GitHub

Mae’r holl adnoddau dogfennaeth, enghreifftiau a thiwtorialau sy’n egluro defnydd ein cynnyrch wedi eu lleoli ar GitHub, gwefan sy’n hwyluso casglu adnoddau projectau cyfrifiadurol ynghyd.

https://github.com/porthtechnolegauiaith

Ar ôl dilyn y linc uchod at dudalen flaen ein adnoddau ar GitHub, gallwch ddewis o blith sawl adnodd gwahanol. Cliciwch drwodd at eich adnodd dewisedig, a byddwch yn gweld disgrifiad byr o’r adnodd, yn ogystal ag amlinelliad o strwythur y project penodol hwnnw.

Mae’r rhan fwyaf o brojectau yn cynnwys dogfennaeth, ffeiliau a chod enghreifftiol y gellir eu llwytho i lawr at eich cyfrifiadur. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm “Download as Zip” ar ochr dde y sgrin (gellir gweld hyn yn y  sgrinlun uchod) . Bydd yr adnoddau yn llwytho i lawr i’ch cyfrifiadur ar ffurf ffeil .zip, felly bydd yn rhaid i chi ddefnyddio rhaglen i’w hechdynnu.