Testun-i-Leferydd

Mae technolegau testun-i-leferydd yn caniatáu i system gyfrifiadurol lefaru unrhyw destun gyda llais synthetig neu naturiol. Gall y testun ddeillio o ddogfennau, gwefan, negeseuon testun neu system meddalwedd wedi’i mewnblannu (lle nad oes modd dangos testun ar sgrin).

Mae adnoddau testun-i-leferydd Cymraeg y Porth Technolegau Iaith wedi’i seilio ar system cod agored sef MaryTTS (http://mary.dfki.de/)

Adnoddau MaryTTS

Mae adnoddau MaryTTS y Porth Technolegau Iaith yn eich galluogi i ddefnyddio a chreu lleisiau synthetig Cymraeg eich hunan. Mae’r lleisiau yn swnio’n naturiol iawn ac mae’r broses yn un hynod o hwylus.

Ewch i’r adnoddau ar GitHub i ddysgu mwy:

techiaith/docker-marytts