Adnoddau Lleoleiddio

Mae lleoleiddio yn cynnwys nid yn unig cyfieithu testunau rhyngwynebau meddalwedd ond hefyd trosi unedau amser, arian, talfyriadau ac ati.

CLDR Cymraeg

default_projectAr y cyd gyda gwirfoddolwyr fel Eleri James a chwmnïau fel Google, mae’r Uned yn helpu datblygu adnodd safonol rhyngwladol y CLDR (Common Locale Data Repository) gan yr Unicode Consortium. Defnyddir systemau cyd-weithio ar-lein ac mae llawer o drafod a phleidleisio cyn pob diweddariad o’r CLDR Cymraeg.

Defnyddir y CLDR Cymraeg i helpu Cymreigio meddalwedd cwmnïau mawr sy’n cynnwys Google, Apple (e.e. enwau misoedd Cymraeg yn iOS) a Microsoft. Fe’i defnyddir hefyd fel adnodd gan y gymuned cod agored i Gymreigio pecynnau megis LibreOffice a Firefox.

Mae’r fersiwn Cymraeg yn datblygu ac yn cael ei wella’n gyson. Er bod y data yn cael eu rhyddhau fel fersiynau sefydlog (’43’ yw’r diweddaraf) mae modd gweld y fersiwn diweddaraf gan y gwirfoddolwyr a’r Unicode Consortium yma :

https://www.unicode.org/cldr/charts/43/summary/cy.html

Rheolau Lluosog

Mae rhai pecynnau meddalwedd yn caniatáu defnyddio rheolau ar gyfer elfennau lluosog o fewn cyfieithiadau. Mae’r wybodaeth am y lluosogion yn y Gymraeg o fewn y CLDR:

http://www.unicode.org/cldr/charts/latest/supplemental/language_plural_rules.html#cy

yn gweithio ar gyfer llawer o sefyllfaoedd ond nid ar gyfer ‘blwyddyn’. Mae’r tabl isod yn dangos hyn:

Unicode %n %n minute(s) %n year(s)
zero 0 0 munud 0 blwyddyn
one 1 1 munud 1 flwyddyn
two 2 2 funud 2 flynedd
many 3
6
3 munud
6 munud
3 blynedd
6 blynedd
few 4 4 munud 4 blynedd
other 5
7
ac ati
5 munud
7 munud
5 mlynedd
7 mlynedd