Rhagymadrodd

Mae’r llawlyfr hwn yn esbonio beth yw technolegau iaith ac yn ddisgrifio rhai o’r cydrannau mwyaf sylweddol yn ogystal â cheisio egluro’r dulliau a ddefnyddir i’w gwireddu. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr, datblygwyr, academyddion, swyddogion polisi, ac eraill sydd heb gefndir yn y maes ond sydd eisiau deall mwy am feysydd pwysig prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial, technoleg cyfieithu a thechnoleg lleferydd. Mae’r meysydd hyn i gyd yn effeithio’n ddirfawr ar ein bywydau ni heddiw. Ar y naill law gallant fod yn fygythiad i barhad ieithoedd bach fel y Gymraeg, a ar y llaw arall yn gallant gynnig cymorth iddynt oroesi a ffynnu yn y byd digidol cyfoes.

Wrth i’r rhyngrwyd a’r we fyd-eang, cyfrifiaduron, a dyfeisiau electronig clyfar amlhau, mae goruchafiaeth ychydig o ieithoedd mawr fel y Saesneg yn dod yn fwyfwy amlwg. Effaith hyn yw fod ieithoedd bach a ieithoedd llai eu hadnoddau yn cael eu hymyleiddio fwyfwy,  ac mae eu siaradwyr mewn mwy o berygl nag erioed o gael eu heithrio yn economaidd ac yn gymdeithasol, gan arwain yn y pendraw at dranc yr ieithoedd y maent yn eu siarad.

Cyflwynodd Jill Evans, aelod Cymreig o Senedd Ewrop, gynnig i Senedd Ewrop ar gydraddoldeb ieithyddol yn Ewrop yn amlinellu pwysigrwydd technolegau iaith i alluogi cydraddoldeb ieithyddol i siaradwyr pob iaith1. Cymeradwywyd y cynnig a’r adroddiad ynghlwm wrtho o fwyafrif sylweddol, ac mae’n rhoi arweiniad manwl ar y camau sydd eu hangen yn Ewrop i wella darpariaeth technoleg iaith ar gyfer holl ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg. Geilw’r adroddiad ar yr Undeb Ewropeaidd i wneud y canlynol:

  • Gwella’r fframweithiau sefydliadol ar gyfer polisïau technoleg iaith,
  • Creu polisïau ymchwil newydd i gynyddu’r defnydd o dechnoleg iaith yn Ewrop,
  • Defnyddio polisïau addysg i sicrhau dyfodol cydraddoldeb ieithyddol yn yr oes ddigidol,
  • Cynyddu’r gefnogaeth i gwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus i wneud gwell defnydd o dechnolegau iaith.

Mae’r perygl o ‘ddifodiant digidol’ (digital extinction) i’n hieithoedd llai wedi cael sylw helaeth hefyd mewn project Ewropeaidd o’r enw y Digital Language Diversity Project(DLDP). Un o’i allbynnau mwyaf defnyddiol ar gyfer ieithoedd fel y Gymraeg a allai wynebu difodiant digidol yw’r Cit Goroesi Digidol ar gyfer Ieithoedd neu’r Digital Language Survival Kit2sy’n rhoi arweiniad ar rai adnoddau a chydrannau technoleg iaith sylfaenol sydd eu hangen ar ieithoedd bach ac yn ceisio ffurfioli mesuriad o ble mae iaith arni ar raddfa bywiogrwydd digidol.

Yng Nghymru, cafwyd dealltwriaeth gynyddol ers rhai blynyddoedd o bwysigrwydd technolegau digidol yn yr ymdrech i adfywio’r Gymraeg a’i gwneud yn iaith addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Gwelir adrannau ar dechnoleg a’r Gymraeg felly mewn dogfennau fel Cymraeg 2050 gan Lywodraeth Cymru sy’n gosod allan yr uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cafwyd hefyd ddogfennau manylach ar dechnoleg iaith yn sefydlu camau gweithredu ar gyfer cyfnod penodol, fel y ddogfen Cynllun Gweithredu Technoleg a’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 20183

Mae’r cynllun hwnnw yn nodi tri maes penodol i fynd i’r afael â hwy ar gyfer y Gymraeg, sef:

  • Technoleg Lleferydd Cymraeg
  • Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur
  • Dealltwriaeth Artiffisial Sgwrsiol

Gwelir felly fod maes technoleg iaith ar gyfer ieithoedd llai eu defnydd, ac ar gyfer y Gymraeg yn benodol, wedi dod yn bwnc llosg yn ystod y blynyddoedd diweddar. Wrth i’r diddordeb yn y maes gynyddu, sylweddolwyd nad oedd arweiniad clir a syml i rai o brif egwyddorion a thechnegau’r maes ar gael yn Gymraeg, ac mae’r llawlyfr bychan hwn felly yn ymgais i unioni’r diffyg hwnnw.

1 Report on language equality in the digital age, 2018. Committee on Culture and Education. Rapporteur Jill Evans. http://www.europarl.europa.eu/doceo/document/A-8-2018-0228_EN.pdf

2 The Digital Language Survival Kit. The DLDP Recommendations to Improve Digital Vitality, 2018. The Digital Language Diversity Project. Authors: Klara Ceberio Berger, Antton Gurrutxaga Hernaiz, Paola Baroni, Davyth Hicks, Eleonore Kruse, Vale-ria Quochi, Irene Russo, Tuomo Salonen, Anneli Sarhimaa, Claudia Soria. http://www.dldp.eu/sites/default/files/documents/DLDP_Digital-Language-Survival-Kit.pdf

3Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg. Is-adran y Gymraeg , Llywodraeth Cymru, 2018. https://gov.wales/docs/dcells/publications/181023-cynllun-gweithredu-technoleg-cymraeg.pdf

Cynnwys Nesaf