ELG

Mae’r ELG, neu’r Grid Ieithoedd Ewrop, yn datblygu i fod yn brif lwyfan i restru a chynnwys holl adnoddau, offer, gwasanaethau a chynnyrch technolegau iaith Ewrop. Gall y deunyddiau fod yn unrhyw un o ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg. Rydym bellach yn defnyddio’r ELG yn hytrach na MetaShare fel llwyfan Ewropeaidd i rannu’n hadnoddau. Gallwch ddarllen mwy am yr ELG yma, neu os am fynd yn syth i edrych ar holl allbynnau project Technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, mae’r rhestr i’w chael yma.