Mae’r Corpws Testunau Cymraeg Facebook yn cynnwys data o gyfraniadau defnyddwyr a diweddariadau statws cyfrwng Cymraeg sydd wedi eu casglu oddi ar grwpiau cyhoeddus.
Mae cofnodion Facebook a’u sylwadau cyfatebol wedi’u casglu o amrywiaeth o broffiliau a thudalennau cyhoeddus, a gellir cael mynediad at yr adnodd hwn drwy’r ddolen isod. Ni ddefnyddiwyd unrhyw gyfrifon preifat, ac nid oes unrhyw wybodaeth defnyddwyr yn cael ei rhannu yn y data yma.
Cedwir data ar gyfer sylwadau a chofnodion ar wahân, sy’n golygu nad yw sylwadau wedi’u cysylltu at eu cofnodion gwreiddiol. Gwnaethpwyd hyn am resymau anonymeiddio. Os yw’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi, cysylltwch â’r Uned Technolegau Iaith.
Bydd y ddolen isod yn eich tywys at ffolder sy’n cynnwys dwy ffolder wahanol: un ar gyfer sylwadau Facebook ac un ar gyfer negeseuon Facebook. Mae pob ffeil zip o fewn y ffolderi yma yn cynnwys 10,000 o sylwadau a chofnodion (yr un). Bydd y ffeiliau hyn yn aros yn gyson dros amser, ac oherwydd hynny gellir eu defnyddio at ddibenion ymchwil.
Llwytho i Lawr
Mae’r corpws yma wedi’i dynnu i lawr dros dro. Os hoffech chi gael gwybod trwy e-bost pan fydd i fyny yn ei ôl, e-bostiwch Delyth ar d.prys@bangor.ac.uk.
Cynnwys y Ffeiliau
Ffeiliau Sylwadau
Ffeiliau CSV yn cynnwys:
- 10,000 sylw yr un
- Ar gyfer pob sylw:
- ID y sylw
- cynnwys y sylw
- yr amser y cafodd y sylw ei greu
- nifer y hoffterau
Ffeiliau Cofnodion
Ffeiliau CSV yn cynnwys:
- 10,000 sylw yr un
- Ar gyfer pob sylw:
- ID y cofnod
- ID y proffil a greodd y cofnod (gallai fod yn ddefnyddiwr Facebook, dudalen neu grŵp)
- cynnwys y cofnod (testun yn unig)
- nifer y sylwadau
- nifer y hoffterau
- nifer o weithiau y’i rhannwyd
Os ydych chi eisiau unrhyw fanylion arall ar y data Facebook yma, cewch gysylltu â’r Uned Technolegau Iaith yn uniongyrchol.
Cydnabyddiaeth
Dylai unrhyw erthyglau neu feddalwedd a seiliwyd ar ddefnydd y corpws hwn ddyfynnu:
Jones, D. B., Robertson, P., Taborda, A. (2015) Corpws Testunau Cymraeg Facebook [http://techiaith.org/corpora/facebook]