Siaradwyr gwadd

Jeff Beatty

Jeff Beatty

Ardal: Utah, UDA

Mae Jeff Beatty yn Beiriannydd Lleoleiddio gyda Mozilla, gwneuthurwyr y porwr gwe poblogaidd, Firefox. Mae ganddo radd BA mewn Cyfieithu Sbaeneg o brifysgol Brigham Young yn Utah, UDA ac MSc mewn Cyfrifiadura Amlieithog a Lleoleiddio o Brifysgol Limerick, Iwerddon. Mae Jeff hefyd wedi ymddangos mewn sawl papur newydd rhyngwladol enwog, gan gynnwys The Economist, El Universal, Multilingual Magazine ac eraill fel arbenigwr mewn lleoleiddio.

 

Kepa Sarasola

kepa sarasola

Ardal: Gwlad y Basg

Mae Kepa Sarasola yn gweithio ym maes prosesu iaith naturiol ym Mhrifysgol Gwlad y Basg. Fel rhan o’r grwp ymchwil IXA, mae ganddo brofiad mewn defnyddio technegau ieithyddiaeth gyfrifiadurol yng nghyd-destun iaith o adnoddau llai, y Fasgeg.  Daw’r dyfyniad canlynol o wefan IXA:

“Mae ein ymchwil ni wedi arwain at greu dechnolegau o’r radd flaenaf ar gyfer prosesu iaith naturiol cadarn a eang ei hymdriniaeth ar gyfer y Fasgeg.  Mae’r technolegau yma yn cynnwys gwiriwr sillafu (Xuxen), system cyfieithu peirianyddol (OpenTrad), Wordnet Basgeg (BasWN), y corpws o Wyddoniaeth a Thechnoleg (corpws ZT) a chorpws a annodwyd yn gastrawenol (EPEC)”.

John Judge
john judge

Ardal: Iwerddon

Mae John Judge yn ieithydd cyfrifiadurol ac yn gymrawd ymchwil yn Ysgol Gyfrifiadura Brifysgol Ddinas Dulyn, yn gweithio fel rhan o’r CNGL (Centre for Global Intelligent Content). Ar hyn o bryd, mae’n cymryd rhan mewn nifer fawr o brojectau technoleg iaith yn ymwneud a’r wyddeleg, yn cynnwys Falcon, MLi, QT LaunchPad, Multilingual Web LT a META-NET.

“Mae gen i ddiddoreb mewn nifer o faesydd yn ymwneud â thechnoleg iaith, adnoddau LT a rhaglenni a datrysiadau cysylltiedig”.