Hacio’r Iaith 2015

Hacioriaith-logoMae Hacio’r Iaith yn ddigwyddiad technoleg iaith cyfrwng Cymraeg, sydd wedi bod yn rhedeg yn flynyddol ers 2010. Flwyddyn yma, bydd y digwyddiad yn cymryd lle yma ym Mhrifysgol Bangor, yn y Ganolfan Rheolaeth, i ddilyn yn union ar ôl y gynhadledd Trwy Ddulliau Technoleg.

Mae’n ddigwyddiad agored y gall unrhyw un fynychu i siarad am bwnc o’u dewis nhw. Mae croeso i gyfranogwyr gynnig pynciau i’w trafod gan bawb arall, a bydd yno adnoddau yn cynnwys ystafelloedd gyda thaflunyddion a chyfrifiaduron er mwyn rhoi sgyrsiau a rhannu syniadau.

Yn y gorffennol mae cyfranogwyr y digwyddiad wedi trafod amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, y rhyngrwyd a thechnoleg, ac mae gweithdai wedi cael eu rhoi yn trafod sut i greu tudalennau wicipedia, blogiau ac apiau.

Y Gymraeg fydd iaith y gynhadledd, ond eleni bydd cyfle hefyd i westeion rhyngwladol roi sgyrsiau neu arddangosiadau mewn Saesneg fel rhan o Hacio’r Iaith Rhyngwladol.

Er mwyn cofrestru ar gyfer y gynhadledd, dilynwch y ddolen isod at y dudalen Eventbrite i sicrhau fod lle i chi. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim i bawb.

Cofrestru ar gyfer Hacio’r Iaith 2015

I ganfod mwy o wybodaeth am y gynhadledd, yn cynnwys yr amserlen a mwy o fanylion, dilynwch y linc isod at dudalen Wici y digwyddiad:

Tudalen Wici Hacio’r Iaith 2015 ar Hedyn