Cynhadledd ‘Trwy Ddulliau Technoleg’ 2015

reichel

Cynhaliwyd cynhadledd technoleg iaith Trwy Ddulliau Technoleg  ar y 6ed o Fawrth 2015. Bwriad y gynhadledd oedd dwyn ynghyd academyddion ac ymarferwyr gyda diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol.

Wedi ei lleoli yn Neuadd Reichel, cynhwysodd y gynhadledd sgyrsiau gan nifer o siaradwyr gwadd, sesiwn arddangos adnoddau y Porth, astudiaethau achos a thrafodaeth ymysg siaradwyr o gymunedau ieithoedd lleiafrifol.

Cyfeiriad oedd teitl y gynhadledd at araith ddylanwadol Saunders Lewis Tynged yr Iaith, ac mae hyn yn adlewyrchu y gobaith y bydd hybu technoleg iaith ymysg ieithoedd lleiafrifol yn fodd o gadarnhau eu hadfywiad.

Yn dilyn y gynhadledd, ar y 7fed o Fawrth cynhaliwyd digwyddiad blynyddol Hacio’r Iaith yn y Brifysgol, gyda hacathon yn defnyddio adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.

Os hoffech chi ddarllen rhai o’r cyflwyniadau a roddwyd yn ystod y gynhadledd, gallwch eu gweld yma.