Lleoliad

Bydd y gynhadledd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor, yng Ngogledd Cymru. Mae’n safle godidog, gyda mynediad hawdd at Barc Cenedlaethol Eryri ac Afon Menai. Gellir ffeindio cyfeiriadau at y Brifysgol drwy ddilyn y ddolen isod:

Map o Fangor

O fewn y Brifysgol, bydd y gynhadledd Trwy Ddulliau Technoleg a Hacio’r Iaith yn digwydd yn y ddau leoliad y gellir eu ffeindio ar y map isod.

Map o’r Brifysgol

Lleolir y gynhadledd Trwy Ddulliau Technoleg (y 6ed o Fawrth) yn Neuadd Reichel (adeilad 17 ar y map) sydd ar safle Ffriddoedd ger Bangor Uchaf.

Mi fydd Hacio’r Iaith (y 7fed o Fawrth)  yn cymeryd lle yn y Ganolfan Fusnes (adeilad 60 ar y map) sydd wedi ei lleoli yn agos at brif adeilad y brifysgol.