Sgript Moses

Mae’r adnodd yma yn caniatáu i chi ddatblygu eich meddalwedd cyfieithu peirianyddol chi eich hunain ar gyfer defnydd mewn prosiectau. Sgript cod agored yw Moses y gellir ei haddasu i’w defnyddio mewn amryw o gyd-destynau gwahanol. Mae modd i ddatblygwyr hyfforddi Moses gyda corpws o ddata Cymraeg o’u dewis (e.e. corpws trafodion y Cynulliad neu ein corpws Twitter ni) er mwyn datblygu yr union reolau awtomatig sydd eu hangen.

Beth mae Moses yn ei wneud?

Mae Moses yn caniatáu i ddatblygwyr greu eu peiriannau cyfieithu eu hunain, drwy eu hyfforddi gyda chorpora Cymraeg sy’n bodoli eisoes. Rydym ni yn darparu y blociau adeiladu y byddwch eu hangen yn y broses yma. Mae’r rhaglen yn gweithio drwy ddulliau ystadegol i ddadansoddi parau o ieithoedd mewn testunau cyferbyniol. Fel man dechrau, rydym yn darparu dau gorpws o Gymraeg ffurfiol, sef Cofnod Y Cynulliad a Deddfwriaeth. Mae croeso i chi ychwanegu mwy o gorpora at y rhestr hwn, er enghraifft er mwyn hyfforddi eich peiriannau i adnabod patrymau ieithyddol cyweiriau gwahanol.
Pam?

Credir mai cyfieithu peirianyddol fydd dyfodol cyfieithu yn y dyfodol agos. Mae datblygiad technolegau sy’n caniatáu i ddefnyddiwr drawsnewid testunau enfawr yn gyflym o un iaith i un arall yn cynnig manteision economaidd amlwg i gwmnïoedd cyfieithu. Yn ôl un dadansoddiad wnaethpwyd yn yr Uned Dechnolegau Iaith yn ddiweddar, gallai defnyddio cyfieithu peirianyddol yn hytrach na chyfieithu traddodiadol dorri’r amser angenrheidiol ar gyfer cyfieithu testun wrth 35%, gan arbed arian ac adnoddau gwerthfawr yn y broses. Mae’n amlwg mai cyfieithu yn beirianyddol – ac yna ôl-gyfieithu testunau – fydd prif wedd cyfieithu y dyfodol, a does dim rheswm meddwl y bydd Cymru yn eithriad yn hyn.
Er bod arfau cyfieithu peirianyddol ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg eisoes ar gael drwy wasanaethau cwmnïau mawr megis Google a Microsoft, mae anfanteision pendant o ran eu defnydd. Mae pecynnau megis Google Translate yn debygol o fod yn gyfyngedig at un gywair yn unig yn Gymraeg, ac gall y diffyg o leoleiddiad addas arwain at chwyddo costau cudd yn y broses o ôl-gyfieithu testunau. O safbwynt tymor hir hefyd, gellir dadlau y byddai o fudd i’r diwydiant cyfieithu Cymraeg osgoi gor-ddibynnu ar sefydliadau rhyngwladol nad ydyn nhw yn llwyr gefnogol o ein amcanion lleol ni. Mae meddalwedd cyfieithu peirianyddol y cwmnïoedd mawrion yn aml wedi ei dargedu at yr ieithoedd rhyngwladol nad ydyn nhw yn rhannu rhai o nodweddion pwysicaf y Gymraeg, e.e. y drefn geiriau, negyddu a berfau.