Category Archives: Codio

Yn cyflwyno Lleisiwr – Bancio Llais a Thestun i Leferydd Cymraeg Cod Agored

Ym mis Tachwedd 2017, derbyniodd yr Uned Technolegau Iaith grant bach oddi wrth gronfa Technoleg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru, i weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar broject i alluogi cleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad i fancio eu llais eu hun ac yna greu llais synthetig digidol personol ohono. Nid oedd hyn erioed wedi bod ar gael i siaradwyr Cymraeg o’r blaen, ac mae’n gam mawr ymlaen i gleifion Cymraeg eu hiaith.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn i’w gael yma gan gynnwys manylion ar gyfer ddatblygwyr meddalwedd am god ffynhonnell y system.

Dyma fideo byr sy’n dangos sut mae modd i chi gofrestru am y gwasanaeth.

Mae’r pecyn wedi cael ymateb cychwynnol gadarnhaol iawn gan rhai therapyddion iaith a lleferydd ar y gwefannau cymdeithasol:

Cyflwyno Macsen

Yn ystod 2015-2016 rydym wedi ceisio datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. Gweler – Cychwyn ar Siarad i’ch cyfrifiadur , Tuag at ‘Siri’ Cymraeg

Mae’r dechnoleg yma’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid, a systemau arddweud. Os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.

Er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer y dechnoleg newydd yn Gymraeg rydyn ni wedi cynhyrchu prototeip o system cwestiwn ac ateb lle mae cynorthwyydd personol o’r enw ‘Macsen’ yn gallu ateb cwestiynau llafar, er enghraifft ‘beth yw’r newyddion?’ neu ‘beth yw’r tywydd?’.

Dyma fideo i gyflwyno ac i arddangos Macsen yn gweithio ar gyfrifiadur bach Raspberry Pi:

Mae’r holl god ac adnoddau ar gael ar GitHub fel bod unrhyw un yn gallu ehangu a datblygu system ‘Macsen’ eu hunain. Prif dudalen ‘Macsen’ ar y we er mwyn gwybod sut i gychwyn arni yw:

http://techiaith.cymru/macsen

Bydd ein gwaith ar adnabod lleferydd ac ar adnoddau agored ar gyfer ‘Macsen’ yn parhau. Cysylltwch â ni os oes gennych chi, fel cwmni meddalwedd, clwb codio, ysgol neu fel haciwr cyffredinol unrhyw ddiddordeb eu cynnwys o fewn projectau meddalwedd eich hunain.

Datblygwyd ‘Macsen’ o fewn y project ‘Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg’ a ariannwyd gan Llywodraeth Cymru ac S4C.

Project Raspberry Pi: Symud braich robot gyda’ch llais

Yn yr Eisteddfodau a digwyddiadau Hacio’r Iaith diweddar, rydym wedi arddangos ein breichiau robot sy’n glwm i Raspberry Pis ac sy’n yn ymateb i gyfarwyddyd yn y Gymraeg.

Dyma fideo o dair braich gyda’i gilydd :

Mae’n system adnabod lleferydd syml iawn a nawr, i’r rhai sy’n teimlo’n anturus, dyma gyfarwyddiadau ar sut y gallwch chithau gosod y demo ar eich Raspberry Pi chi.

Byddwch angen yr offer canlynol:

Os rydych yn defnyddio Raspberry Pi hŷn, gyda ddim ond dau borth USB, yna rydych angen hwb USB, fel http://www.modmypi.com/raspberry-pi/accessories/usb-hubs/pihub-official-4-port-raspberry-pi-usb-hub-eu-plug-5v-3a, er mwyn cysylltu popeth.

Mae’r demo yn defnyddio peiriant adnabod lleferydd cod agored o’r enw ‘Julius’. Mae hefyd yn defnyddio modelau acwstig rydym wedi eu cynhyrchu gyda recordiadau 20 unigolyn yn llefaru promtiau arbennig.

Teipiwch y canlynol o linell gorchymyn ar eich Raspberry Pi er mwyn gosod y system ‘Julius’:

$ sudo apt-get update
$ sudo apt-get install alsa-tools alsa-oss flex zlib1g-dev libc-bin libc-dev-bin python-pexpect libasound2 libasound2-dev cvs
$ cvs -z3 -d:pserver:anonymous@cvs.sourceforge.jp:/cvsroot/julius co julius4
$ export CFLAGS="-O2 -mcpu=arm1176jzf-s -mfpu=vfp -mfloat-abi=hard -pipe -fomit-frame-pointer"
$ ./configure --with-mictype=alsa
$ sudo make
$ sudo make install
$ export ALSADEV="plughw:1,0"
$ julius

Os yw’r llinell olaf yn achosi i’r canlynol ymddangos, yna rydych wedi gosod Julius yn llwyddiannus!

Julius rev.4.3.1 - based on
JuliusLib rev.4.3.1 (fast) built for x86_64-unknown-linux-gnu

Copyright (c) 1991-2013 Kawahara Lab., Kyoto University
Copyright (c) 1997-2000 Information-technology Promotion Agency, Japan
Copyright (c) 2000-2005 Shikano Lab., Nara Institute of Science and Technology
Copyright (c) 2005-2013 Julius project team, Nagoya Institute of Technology

Try '-setting' for built-in engine configuration.
Try '-help' for run time options.

Yn nesaf, rhaid i chi lwytho i lawr ein ffeiliau adnabod lleferydd braich robot o’r Porth Technolegau Iaith ar gyfer eu defnyddio gyda Julius.

$ mkdir robot
$ cd robot
$ wget http://techiaith.cymru/gallu/braichrobot.tar.gz
$ tar -zxvf braichrobot.tar.gz

Ac yna er mwyn cael y Raspberry Pi a’r fraich robot i ymateb i’r gorchmynion ar lafar, teipiwch:

$ cd braichrobot
$ sudo python robotarm_voicectl.py

Dylai’r gair ‘siaradwch’ ymddangos. Dyma beth fyddwch nawr yn gallu dweud wrth y fraich:

ysgwydd i fyny
ysgwydd i lawr
penelin i fyny
penelin i lawr
arddwrn i fyny
arddwrn i lawr
gafael agor
gafael cau
troi i’r chwith
troi i’r dde
golau ymlaen

Gobeithio bydd y project bach yma yn hwyl yn enwedig i ddisgyblion Ysgol Pont y Gof, Botwnnog a enillodd un o’n breichiau robot mewn cystadleuaeth codio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli yn ystod yr haf:

Yn y cyfamser, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru ac S4C, rydym yn parhau i ddatblygu adnabod lleferydd Cymraeg ac i’w chynnig yn rhad ac am ddim o fewn y Porth Technolegau Iaith. Ein bwriad yw datblygu systemau mwy soffistigedig a mwy defnyddiol.

Ond mae angen eich help! Cyfrannwch eich llais drwy ein ap Paldaruo:

paldaruo

iTunes Google Play

Gwersi codio robot Cymraeg

Fel rhan o’n hymgais i hybu caffaeliad sgiliau cyfrifiadura ymysg siaradwyr Cymraeg, mae’r Uned Technolegau Iaith wedi bod yn datblygu cyfres o wersi cyfrifiadura wedi eu targedu at blant ysgolion cynradd.

Sylfaen yr adnoddau yma yw gwersi Prawf Turing y sefydliad robotRaspberry Pi. Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn yn Saesneg yn wreiddiol ac yna fe’u rhyddhawyd ar wefan y sefydliad dan drwydded agored. Mae’r cwrs, sydd wedi’i strwythuro fel set o dair gwers, yn dysgu plant i godio gan ddefnyddio cyfarpar Raspberry Pi a’r iaith gyfrifiadurol Python. Defnyddia’r gwersi ddamcaniaeth enwog y Prawf Turing fel fframwaith i egluro egwyddorion sylfaenol cyfrifiadura, ac mae digon o weithgareddau ymarferol i gadw pethau’n ddifyr.

Ein cyfraniad ni fu cyfieithu’r cyfan i’r Gymraeg, a’i osod ar GitHub, fel bod modd i’r cyhoedd ei ddefnyddio a’i addasu at eu hamcanion eu hunain. Rydym hefyd wedi creu gwers newydd sbon sydd yn benodol ar gyfer plant Cymraeg eu hiaith. Mae’r wers arbennig hon yn cyflwyno plant at rai o adnoddau’r Porth Technolegau Iaith, gan gynnwys y llais testun-i-leferydd, yr adnodd adnabod iaith, Cysill Ar-lein a’r tagiwr rhannau ymadrodd, mewn ffordd sydd yn hwyl ac yn hawdd i’w ddeall.

tyrbinau 006
Plant Garndolbenmaen yn mwynhau eu gwers codio gyda Dewi Bryn Jones, Patrick Robertson a Rapiro y Robot.

Cafodd y wers hon ei threialu gan Dewi Bryn Jones a Patrick Robertson yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen ym mis Mawrth eleni, a bu’n llwyddiant mawr. Gwelwch y cofnod blaenorol hwn i weld fideo a grëwyd gan y plant, er mwyn dysgu mwy am hwyl a helynt y diwrnod hwnnw.

Mae’r adnoddau i gyd ar gael ar GitHub dan drwydded agored yma. Mae’r rhain yn cynnwys y tair gwers gwreiddiol a gyfieithwyd, y wers arbennig ynglŷn â chymreigio’r robot a hefyd canllawiau paratoi ar gyfer athrawon a myfyrwyr.

 

Gweler strwythur y wers isod:

Gwersi

A gellir cyrraedd y wers Gymraeg arbennig yma:

Diolch!!!

Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y gynhadledd Trwy Ddulliau Technoleg, ac i bawb a gyflwynodd ac a gyfrannodd eu hamser a’u hegni i greu diwrnod gwerth chweil.

Ond hoffem ddiolch yn arbennig i blant Ysgol Garndolbenmaen.

Daethant i adrodd am eu profiad o ddefnyddio’r adnoddau llais synthetig mewn gwersi diweddar ar godio meddalwedd Cymraeg gyda’r Raspberry Pi. Roeddent wedi paratoi fideo arbennig ar gyfer y gynhadledd yn disgrifio eu profiadau, ond yn anffodus cafwyd problemau technegol pan geisiwyd ei chwarae. Felly (gydag ymddiheuriadau am hynny), dyma fideo llawn plant Ysgol Garndolbenmaen o’r diwedd:

Adroddodd y plant hanes y gwersi, lle dysgon nhw sgiliau craidd codio gan ddefnyddio cynllun gwers codio prawf Turing Cymraeg gan y Raspberry Pi Foundation yn wreiddiol, ond yna wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg gan yr Uned Technolegau Iaith ac yna’i ehangu gydag adnoddau’r Porth Technolegau Iaith – gweler : https://github.com/PorthTechnolegauIaith/turing-test-lessons

Cafodd y plant hefyd gyfarfod gydag un gwestai hynod o arbennig – Is-ganghellor Prifysgol Bangor!

DSC_0010

Eglurodd y plant i’r Is-ganghellor, yr Athro John Hughes, eu bod wedi mwynhau yn arw cael gweithio ar y project, ac wedi dysgu amryw o sgiliau defnyddiol. Dywedodd rhai hyd yn oed yr hoffent ddod yn godwyr proffesiynol yn y dyfodol!

Cafodd y plant hefyd gyfle i sgwrsio gyda rhai o’r siaradwyr gwadd, oedd wedi teithio o bob rhan o’r byd er mwyn mynychu’r gynhadledd. Isod, o’r chwith i’r dde, gweler John Judge o Iwerddon, Kepa Sarasola o Wlad y Basg a Dwayne Bailey o Dde Affrica (ond sy’n byw yn Llundain ar hyn o bryd).

siaradwyr_NDF8994

Dyma’r plant yn cyfarfod y siaradwyr gwadd, yn ogystal a’r aelodau rheini o’r Uned Technolegau Iaith a weithiodd ar broject y Porth Technolegau Iaith, heb anghofio Rapiro, y robot bach sy’n siarad Cymraeg:

Grwp_NDF8993

Bu’r plant yn adrodd eu hanes hefyd i Radio Cymru

Post Cyntaf : http://www.bbc.co.uk/programmes/b053hsb6 – 1:16:25 i fewn

Ac i Newyddion BBC ar S4C :

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/31833000

Yn ogystal, bu lot o sylw ar Trydar :