Beth yw’r Porth Technolegau Iaith?

Mae’r Porth Technolegau Iaith Genedlaethol Cymru yn gasgliad o adnoddau technolegol Cymraeg a’u datblygwyd yma yn yr Uned Technolegau Iaith. Rydym wedi darparu’r adnoddau rhain fel ‘blociau adeiladu’, agored ac am ddim, ar gyfer clybiau codio Cymraeg, hacwyr, gwirfoddolwyr brwdfrydig, cwmnïau meddalwedd (lleol a rhyngwladol) ac ymchwilwyr i greu cynnyrch digidol gorffenedig yn y Gymraeg.

Elfen bwysig o’r Porth Technolegau Iaith yw y bydd yn cynorthwyo defnyddwyr o ran sut i ddefnyddio’r adnoddau, yn ogystal â chynnig syniadau ar wahanol gynnyrch yn cynnwys apiau, gemau, projectau i’ch Raspberry Pi a nodweddion wedi eu plannu mewn gwefannau.

Dyma’r adnoddau y mae modd eu cyrchu bellach o’r wefan hon:

Corpora

  • Corpws Trydariadau Cymraeg
  • Corpws Testunau Cymraeg Facebook

Cyfieithu

  • Cyfieithu Peirianyddol Cymraeg<>Saesneg gyda Moses SMT
  • Aliniwr Cymraeg<>Saesneg

Lleferydd

  • Llais Testun i Leferydd Cymraeg (drwy’r API isod)
  • Ffeiliau sain Paldaruo
  • modelau acwstig GALLU

Gwasanaethau API

  • API Cysill Ar-lein
  • API Tagiwr Rhannau Ymadrodd
  • API Testun i Leferydd Cymraeg
  • API Adnabod Iaith

Ategion

  • Cysill Ar-lein (gw. hefyd uchod o dan Gwasanaethau API)
  • Vocab

Mae mwy o fanylion i’w cael yn yr adrannau perthnasol, ynghyd â dolenni at yr adnoddau, dogfennaeth, a syniadau defnydd. Mae rhai o’r adnoddau hyn i’w cael hefyd o storfa Github, a cheir rhestr o’r rheiny hefyd yn yr adran briodol.

Er mwyn arddangos yr adnoddau i’r cyhoedd, cynhaliwyd cynhadledd Trwy Ddulliau Technolegol ar y chweched o Fawrth 2015 ym Mhrifysgol Bangor. Yn dilyn hyn, ar y seithfed o Fawrth, cynhaliwyd y bennod flynyddol o Hacio’r Iaith yn y Ganolfan Rheolaeth hefyd ym Mangor, a oedd yn gyfle i ddod at ein gilydd mewn awyrgylch anffurfiol, braf i rannu gwybodaeth a phrofiadau, a dysgu gan ein gilydd.