Vocab

Mae’r ategyn Vocab yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgair a’r Termiadur Addysg yn nhestun eich gwefan, ac yn eu tanlinellu.  Ar ôl gosod y rhaglen, bydd modd i ddefnyddwyr weld cofnodion geiriadurol llawn drwy symud y llygoden dros eiriau sydd wedi’u tanlinellu.

Fel ategyn Cysill, mae’n hawdd iawn gosod ategyn Vocab ar eich gwefan (D.S.  rhaid gosod eich allwedd API bersonol chi yn lle “EICH_ALLWEDD_API”. Ewch i Cofrestru am allwedd API ar gyfer y cyfarwyddiadau llawn).

  1. Ychwanegwch y ddau dag <script> canlynol at god tudalen eich gwefan:
    <script type='text/javascript'>
    	var vocabConfig = {
    		apikey : 'EICH_ALLWEDD_API',
    		language : 'cy',
    		start : 'body'
    	};		
    </script>
    <script type='text/javascript' language='javascript' src='http://api.techiaith.org/vocab/ui/vocab/vocab.nocache.js'></script>
    
    
  2. Ychwanegwch <div> gyda class=vocab_button unrhyw le o fewn eich tudalen:
    <div class="vocab_button"></div>