Aliniwr Cymraeg-Saesneg

Rhaglen sy’n caniatáu alinio rhwng testunau Cymraeg a Saesneg yw aliniwr. Mae’n alinio testunau ar lefel y frawddeg, ac yn gallu troi dau destun o ddwy iaith wahanol yn allbwn o barau o frawddegau.

Gall aliniwr fod o fudd i ddatblygwyr sydd am greu testunau cyfochrog ar gyfer hyfforddi peiriannau cyfieithu ond yn arbennig i gyfieithwyr sydd eisiau creu cofion cyfieithu o gyfieithiadau a grëwyd heb arf CAT neu o unrhyw destun arall sydd ar gael mewn dwy neu fwy iaith.

Sail yr Aliniwr Cymraeg-Saesneg yw’r rhaglen cod-agored Hunalign a geiriadur o eiriau, termau ac ymadroddion cyfatebol Cymraeg-Saesneg ( gweler: http://techiaith.cymru/alinio ) i helpu’r rhaglen alinio’n effeithiol rhwng y ddwy iaith.

Mae ein hadnoddau at GitHub yn cynnwys cod enghreifftiol ar defnyddio Hunalign gyda Python i alinio casgliadau mawr yn awtomatig, yn ogystal a tiwtorial ar y pecyn LFAligner.

Ewch i:

techiaith/alinio