Diweddariad Moses SMT

Pan gyhoeddwyd ein hadnoddau cyfieithu peirianyddol yn gynharach yn y mis, roeddem yn defnyddio’r fersiwn cyntaf o Moses, sef fersiwn 1.0. Bellach, rydym wedi diweddaru’r sgriptiau hwyluso er mwyn defnyddio’r fersiwn diweddaraf: Moses 3.0.

Mae’r cyfan ar gael un ai o GitHub ar http://github.com/PorthTechnolegauIaith/moses-smt neu o Docker.com https://registry.hub.docker.com/u/techiaith/moses-smt/.

Mae Moses 3.0 yn cynnig nifer o welliannau i gyfieithwyr. Yn ôl y datganiad cyhoeddi (y gellir ei weld yma) mae’r rhain yn cynnwys nodweddion sy’n cyflymu’r broses dadgodio, yn rhyddhau mwy o gof ac yn gwneud Moses yn fwy effeithiol yn y dasg o baru’r brawddegau perthnasol.

Byddwn yn cymryd mantais o’r diweddariad er mwyn gwella peiriant cyfieithu CofnodYCynulliad (sydd wedi ei drafod eisoes yma) gyda data ychwanegol y byddwn yn ei gasglu o’r Cynulliad.

Yn ogystal, rydym yn bwriadu creu peiriant cyfieithu parth benodol ar gyfer cyfieithu meddalwedd, diolch i ddata a gyfrannwyd gan Rhoslyn Prys o meddal.com.

Mae’r rhain yn esiamplau gwych o natur iterus peiriannau cyfieithu, lle mae’n bosib ychwanegu mwy o ddata i’w datblygu a’u gwella’n barhaus. Cadwch eich llygaid allan am fwy o ddatblygiadau gyda hyn.